Mae bygythiad Brexit heb gytundeb ac ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd yn rhoi ffermwyr cig “mewn lle peryglus,” meddai undeb yr NFU.

Yn ôl Cadeirydd Bwrdd Da Byw’r undeb, Wyn Evans, mae ffermwyr Cymru “yn cael eu gadael yn y tywyllwch” ar y mater.

Mae’n honni bod y diffyg gwybodaeth ynglŷn â dyfodol perthynas masnach Prydain a’r Undeb Ewropeaidd yn destun pryder.

Fe fydd hyn yn cael ei drafod mewn digwyddiad ar safle’r Sioe Fawr yn Llanelwedd heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 5) fel rhan o  Uwchgynhadledd gyntaf Cig Coch yr undeb.

“Ansicrwydd gwleidyddol “

Yn ôl Wyn Evans, mae’r “ansicrwydd gwleidyddol” yn gadael ffermwyr cig mewn sefyllfa fregus wrth iddyn nhw gyrraedd wythnosau prysuraf eu blwyddyn.

“Wrth i ni dreulio ein diwrnodau a’n nosweithiau yn ein sied wyna ac allan ar y caeau, rydym yn gwneud hyn yn y tywyllwch heb wybod pa farchnadoedd fydd yn agored i’r ŵyn hyn yn hwyrach yn y flwyddyn,” meddai.

“Yr wythnos ddiwethaf pleidleisiodd mwyafrif yr Aelodau Seneddol i anfon y Prif Weinidog yn ôl i Frwsel i geisio ail wneud ei chytundeb.

“Mae’r iaith sy’n dod allan o Ewrop wedi ei gwneud yn eithaf clir nad ydyn nhw yn barod i ail edrych ar yr hyn a gytunwyd ar ddiwedd y llynedd, ac rwy’n bryderus y byddwn yn y pen draw yn gwastraffu mwy o amser ar yr hyn sy’n gam hollbwysig.”

Mae’r diwydiant wyn yn cynhyrchu dros 65,000 tunnell o gig defaid ac o gwmpas 48,000 tunnell o gig eidion – gan greu trosiant blynyddol o £1.3bn.

Heddiw, mae Undeb Ffermwyr Cenedlaethol Cymru yn galw ar wleidyddion i ddod at ei gilydd i sicrhau bod hyn yn parhau heb ymyrraeth.