Aeron Jones
Mae Pwyllgor Safonau Cyngor Gwynedd wedi cytuno gydag Ombwdsman Cymru fod y Cynghorydd Aeron Jones o Lais Gwynedd wedi torri côd ymddygiad y Cyngor.

Mae Cynghorydd ward Llanwnda wedi ei wahardd am fis, wedi ei siarsio i sgwennu llythyr yn ymddiheuro i Arweinydd y Cyngor Dyfed Edwards ac i fynychu hyfforddiant ar y Côd Ymddygiad eto.

Mi gymrodd yr Ombwdsman flwyddyn a hanner i ymchwilio i gwynion wnaed gan Arweinydd Cyngor Gwynedd nôl yn Nhachwedd 2009.

Roedd y Cynghorydd Dyfed Edwards o Blaid Cymru yn cwyno am sylwadau ar flog y Cynghorydd Aeron Jones, oedd yn honni fod Arweinydd y Cyngor, y Prif Weithredwr a swyddogion eraill wedi hedfan i Gaerdydd i geisio cael mwy o gyllid i goffrau’r Cyngor gan Aelod Cynulliad Arfon, Alun Ffred Jones.

Roedd y Cynghorydd Aeron Jones yn dweud fod y trip wedi costio £120 y person, yn honni fod Dyfed Edwards ac Alun Ffred Jones yn byw o fewn pum milltir i’w gilydd yn Nyffryn Nantlleu ac yn cyfeirio at y ffaith fod y cyngor sir dan bwysau i wneud arbedion ariannol.

Yn dilyn y blogiad ar y 9fed o Hydref 2009, mi roddodd Dyfed Edwards 48 awr i Aeron Jones dynnu ei eiriau’n ôl a chyhoeddi ymddiheuriad ar ei flog.

Tra’n cydnabod ei fod wedi gweld Alun Ffred Jones mewn seminar yng Nghaerdydd ble’r oedd 50 o gynghorwyr eraill yn bresennol, roedd Arweinydd Cyngor Gwynedd yn dweud ei fod yno yn lefarydd dros Ddiwylliant a Threftadaeth ar gyfer Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Yna mi ofynnodd y Swyddog Monitro i Aeron Jones ddileu’r sylwadau ar ei flog, am nad oedd “unrhyw sail i’r sylwadau”.

Roedd y blog yn honni fod y Prif Weithredwr a swyddogion eraill wedi hedfan gyda’r Arweinydd i lawr i Gaerdydd – nid oedd hyn yn wir.

Yn ei adroddiad terfynol roedd yr Ombwdsman Peter Tyndall yn casglu bod Aeron Jones wedi cyflwyno gwybodaeth ddi-sail:

‘Nid oes unrhyw awgrym wedi bod o gyfarfod yn digwydd i drafod cyllid. Alun Ffred Jones AC oedd y Gweinidog dros Dreftadaeth, nid y Gweinidog dros Gyllid. Mae datganiad y Cynghorydd [Aeron] Jones yn un di-sail. Drwy ddweud bod y cyfarfod yn un rhwng y Cynghorydd [Dyfed] Edwards, y Prif Weithredwr ac eraill gydag Alun Ffred Jones AC, ac y gellid fod wedi’i gynnal yn lleol; mae’r Cynghorydd [Aeron] Jones wedi rhoi’r argraff bod y trip felly [yn] wastraffus o arian pwrs y wlad…yn fy marn i mae’r Cynghorydd [Aeron] Jones yn ei gapasiti swyddogol wedi ceisio creu anfantais i’r Cynghorydd [Dyfed] Edwards. Fy nghasgliad yw bod y dystiolaeth yn awgrymu bod paragraff 7 (a) o’r Côd Ymddygiad wedi cael ei dorri.

Fel pob un o gynghorwyr Gwynedd, mae Aeron Jones wedi llofnodi’r Côd Ymddygiad, ac mae 7 (a) yn gofyn i gynghorwyr ‘beidio â defnyddio’u safle yn amhriodol i roi neu i sicrhau mantais neu anfantais i unrhyw berson’.

Hefyd yn ôl yr Ombwdsman roedd y Cynghorydd Llais Gwynedd wedi methu cadw at baragraff 6 (1) (a) o’r Côd, sef ‘[p]eidio â chyflawni tramgwydd troseddol na pheri bod un yn cael ei gyflawni’ – a hynny am iddo ddefnyddio’r term “sbri” wrth gyfeirio at y daith ar yr awyren i Gaerdydd.

‘Mae hyn yn feirniadaeth anghywir o awdurdod sydd yn llygaid y cyhoedd’ yn ôl yr Ombwdsman.

Heddiw roedd Pwyllgor Safonau Cyngor Gwynedd – yn cynnwys pedwar aelod annibynnol a thri chynghorydd – wedi siarsio Aeron Jones i dynnu’r blog dan sylw i lawr.