Mae teyrngedau wedi’u rhoi i ddynes 22 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Ynys Môn.
Roedd Rebecca Chloe Oxlade yn byw yn Nhrearddur ond yn dod o Bromley, Caint yn wreiddiol.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng ei char Renault Capture lliw oren a Vauxhall Corsa toc cyn 12.30yp ddydd Iau (Ionawr 17).
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.
Teyrnged gan ei phartner
“Becca oedd y person mwyaf hyfryd, caredig a chariadus y byddech chi byth yn cyfarfod â hi,” meddai ei phartner Jordan Abrahams wrth dalu teyrnged iddi.
“Mi wnaeth hi fi yr hapusaf rwy’ wedi bod erioed. Roedd hi’n golygu popeth i fi. Hi oedd fy myd, fy mherson.
“Roedd Becca yn ddoniol ac nid yn unig y byddai hi’n goleuo’r ystafell, ond bywydau pobol hefyd.”
‘Y byd wedi pylu hebddi’
“Rydym yn torri ein calonnau o golli’r ddynes ifanc ddoniol, hardd, anhygoel yr oedden ni’n falch o’i galw’n ferch i ni,” meddai ei rhieni, Jacqui a Gary.
“Roedd Becca yn rhywun oedd yn teimlo popeth yn ddwys, roedd hi’n caru ac yn cael ei charu fel ei gilydd.
“Byddai hi’n goleuo ystafell wrth gerdded i mewn iddi, a bydd y byd yn pylu hebddi.”
Ychwanegodd ei rhieni y byddai ei theulu oll yn gweld ei heisiau.