Mae pleidlais wedi’i hagor i ddewis pwy fydd y ferch gyntaf yng Nghymru i gael delw mewn man cyhoeddus.
Cafodd prosiect Arwresau Cudd (Hidden Heroines) y BBC ei lansio ddwy flynedd yn ôl.
Yn sgil y prosiect, cafodd rhestr fer o bump o ferched ei chreu. Ar y rhestr honno mae Elizabeth Andrews, Betty Campbell, Cranogwen (Sarah Jane Rees), Elaine Morgan a’r Arglwyddes Rhondda (Margaret Haig Thomas).
Bydd y bleidlais yn cau ar Ionawr 16, a’r ddelw’n cael ei chodi ar Sgwâr Canolog Caerdydd y tu allan i bencadlys newydd BBC Cymru.
Y merched
Elizabeth Andrews (1882-1960) – hyrwyddwr hawliau merched a phlant
Daeth y ferch hon, oedd yn siarad Cymraeg, â hawliau merched dosbarth gweithiol i’r arena wleidyddol.
Problemau cymdeithasol Cwm Rhondda oedd wedi ei sbarduno i weithredu ar ran ei chymuned.
Hi oedd trefnydd benywaidd cyntaf Plaid Lafur Cymru, gan sefydlu adrannau a chynghorau i ferched.
Hi hefyd oedd un o ynadon benywaidd cyntaf gwledydd Prydain.
A hithau’n wraig i löwr, ymgyrchodd ar ran hawliau’r gweithwyr a’u gwragedd.
Roedd ganddi rôl flaenllaw yng ngwasanaethau iechyd Cymru cyn i’r Gwasanaeth Iechyd gael ei sefydlu.
Betty Campbell (1935-2017) – prifathrawes groenddu gyntaf Cymru
Cafodd hi ei geni yn Nhrebiwt i rieni dosbarth gweithiol, a chiciodd yn erbyn y tresi wrth ddod yn brifathrawes groenddu gyntaf Cymru.
Bu farw ei thad yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a chafodd ei magu wedyn gan ei mam.
Enillodd hi ysgoloriaeth i fynd i ysgol lle’r oedd gan y rhan fwyaf o’i chyd-ddisgyblion groen gwyn.
Wrth fynegi ei dymuniad i ddod yn brifathrawes, dywedodd athrawes wrthi y byddai ei “phroblemau’n anorchfygol”.
Ond aeth i’r Coleg Hyfforddi yng Nghaerdydd er mwyn cymhwyso, a mynd yn athrawes wedyn yn Nhrebiwt, lle bu’n dysgu’r plant am hawliau pobol groenddu – y tro cyntaf i addysg o’r fath gael ei chynnig.
Roedd hi’n flaenllaw hefyd wrth gyd-sefydlu Mis Hanes Pobol Groenddu.
Roedd hi’n aelod o’r Cyngor Cydraddoldeb Hiliol ac yn gynghorydd yn Nhre-biwt.
Cranogwen / Sarah Jane Rees (1839-1916) – morwraig, bardd, newyddiadurwraig, pregethwraig ac ymgyrchydd
Roedd Sarah Jane Rees yn arloeswraig mewn sawl maes – o farddoniaeth i newyddiaduraeth.
Cafodd ei magu yn Llangrannog cyn mynd yn brif forwraig (a hithau’n ferch i forwr), er bod ei rhieni am iddi fod yn wniadwraig.
Bu’n gweithio ar longau cargo am ddwy flynedd cyn derbyn rhagor o addysg forwrol, gan ennill cymhwyster er mwyn rheoli llong yn unrhyw ran o’r byd.
Daeth yn brifathrawes ar ysgol yn 21 oed, gan ddysgu morwriaeth i ddynion ifanc lleol.
Hi oedd y ferch gyntaf i ennill gwobr farddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan guro Islwyn a Ceiriog.
Hi hefyd oedd y ferch gyntaf i olygu’r cylchgrawn Y Frythones yn 1879, gan roi hwb i nifer o feirdd ac awduron benywaidd amlycaf Cymru.
Yn 1901, sefydlodd Undeb Dirwestol Merched y De – y gangen gyntaf o blith 140.
Elaine Morgan (1920-2013) – awdures teledu, ffeminist a damcaniaethwraig
Roedd Elaine Morgan o Aberpennar yn flaenllaw ym myd y celfyddydau a gwyddoniaeth, gan ddod yn awdures teledu adnabyddus.
Roedd hi’n ddamcaniaethwraig amlwg ym maes esblygiad ar ôl ennill ysgoloriaeth i Brifysgol Rhydychen, lle cafodd ei chamgymryd am lanhawraig oherwydd ei hacen Gymreig.
Ar ôl graddio, bu’n dysgu gyda Chymdeithas Addysg y Gweithwyr.
A hithau’n fam i dri o blant, dechreuodd ysgrifennu dramâu yn y 1950au – doedd ganddi ddim set deledu pan gafodd ei gwaith cyntaf ei dderbyn.
Sgriptiodd hi ar gyfer nifer o ddramâu enwocaf Cymru, gan gynnwys How Green Was My Valley?, Testament of Youth a The Life and Times of Lloyd George.
Enillodd hi wobrau lu yn ystod ei gyrfa cyn penderfynu canolbwyntio ar fyd gwyddoniaeth, ac yn cael ei hedmygu gan Syr David Attenborough.
Arglwyddes Rhondda / Margaret Haig Thomas (1883-1958) – swffraget, gwraig fusnes ac ymgyrchydd
Daeth yr ymgyrchydd o Lanwern ag Emmeline Pankhurst i Gymru yn ystod y frwydr dros y bleidlais i ferched.
Heriodd hi’r Prif Weinidog Herbert Asquith drwy neidio ar ei gar. Roedd hi hefyd yn gyfrifol am gynnau tân mewn blwch post a threuliodd gyfnod yn y carchar lle aeth hi ar streic newyn.
Roedd hi’n flaenllaw yn y frwydr i sicrhau bod gan ferched le amlwg yn ymdrechion yr Ail Ryfel Byd.
Goroesodd hi ymosodiad ar long y Lusitania, trychineb a laddodd 1,100 o bobol.
Hi oedd fenyw fusnes fwyaf ei chyfnod, gan eistedd ar fwrdd 33 o gwmnïau, a hi yw’r unig ferch i fod yn Llywydd Sefydliad y Cyfarwyddwyr.
Hi oedd sylfaenydd Time and Tide, papur llenyddol wythnosol oedd yn sbardun i yrfaoedd nifer o lenorion blaenllaw gan gynnwys George Orwell, Virginia Woolf a JRR Tolkien.
Roedd cydraddoldeb rhwng y rhywiau’n hollbwysig iddi, a hithau wedi creu’r Six Point Group at y diben hwn.
Ymgyrchodd hi dros hawliau cyfreithiol i ferched i gyd-fynd â’r bleidlais – hawliau oedd yn cynnwys y gallu i eistedd yn Nhŷ’r Arglwyddi yn y pen draw.