Roedd enw Steffan Lewis ar wefusau oedolion pan oedd ef ei hun yn dal yn ddisgybl ysgol.
Fe draddododd ei araith gyntaf yng nghynhadledd Plaid Cymru yn 1997, a bryd hynny, roedd yn gwybod ei fod am fod yn wleidydd.
Fe gafodd ei deipiadur cyntaf yn anrheg gan ei fam pan oedd yn 11 oed, a dyna oedd dechrau ei arfer o ysgrifennu llythyrau at wleidyddion fel Dafydd Wigley yn eu holi am faterion y dydd. Roedd Steffan Lewis yn nodi cyn-Lywydd Plaid Cymru ac Aelod Seneddol a Chynulliad Caernarfon fel yr un roddodd ei “brentisiaeth” wleidyddol iddo.
Ei dad oedd yr un aeth ag ef i’w gyfarfod Plaid Cymru cyntaf… ac mae’r gweddill erbyn hyn yn hanes.
Pan anerchodd ei gynhadledd gyntaf yn 14 oed, ac wedi hynny sicrhau jobyn yn swyddfa’r Aelod Cynulliad Jocelyn Davies, roedd wedi rhoi ei fryd ar fod yn Aelod Cynulliad.
Fe safodd am y tro cyntaf yn enw Plaid Cymru yn 2006 yn isetholiad Blaenau Gwent ar gyfer Senedd San Steffan, gan gynyddu pleidlais y blaid o 4.1%.
Pan ddaeth Leanne Wood yn arweinydd Plaid Cymru yn 2012, Steffan Lewis oedd yr ymgynghorydd arbenigol wrth ei phenelin.
Ef hefyd sy’n cael y clod am gynorthwyo Leanne Wood i baratoi ar gyfer dadleuon teledu 2015, perfformiad cofiadwy a chredadwy yn erbyn arweinyddion y prif bleidiau Prydeinig eraill.