Mae prif ffigyrau gwleidyddol Cymru wedi rhoi eu teyrngedau i’r diweddar Aelod Cynulliad, Steffan Lewis, a fu farw’n 34 oed.
Ef oedd un o Aelodau Cynulliad ieuengaf y Cynulliad ac fe gafodd ddiagnosis o ganser yn Rhagfyr 2017, flwyddyn yn unig wedi iddo ddechrau cynrychioli Dwyrain De Cymru.
Mae ei deulu wedi ei alw’n “graig” ac yn “arwr” ac wedi cadarnhau y bu iddo farw yn dawel yn Ysbyty Ystrad fawr yn Ystrad Mynach.
Ef oedd llefarydd Materion Allanol Plaid Cymru, gyda chyfrifoldeb tros Brexit, materion allanol a rhyngwladol, a’r Cwnsler Cyffredinol.
“Gweddus a galluog”
“Hoffwn fynegi fy nhristwch dwfn a phersonol ar golli Steffan Lewis AC, un o wleidyddion mwyaf gweddus a galluog ei genhedlaeth,” meddai’r Prif Weinidog, Mark Drakeford.
“Mae fy meddyliau gyda’i wraig Shona a mab ifanc Celyn ar yr adeg hynod anodd hon.”
“Gwleidydd athronyddol”
“Steffan Lewis oedd gwleidydd athronyddol gorau ei genhedlaeth,” meddai Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards.
“Colled enfawr i’w deulu, y Blaid a Chymru. Adeiladwn genedl newydd i’w anrhydeddu. Cwsg mewn hedd fy nghymrawd annwyl.”
https://www.facebook.com/jonathan.edwards.165685/posts/10155986472060911
“Colled greulon”
“Am golled greulon, i’w deulu, ei blaid a’i wlad,” meddai’r Llywydd, Elin Jones. “Mi wnaeth Steffan Lewis argraff yn syth yn y Senedd.
“Roedd ganddo galon lân, gwên gynnes a gallu cynhenid. Pan siaradodd Steffan, gwrandawodd bawb. Ni’n dal i wrando Steffan. Meddwl heno am ei deulu annwyl.”
Such a sad loss of one of our youngest and our best. Steffan Lewis made an immediate impact in the Senedd – with a…
Posted by Elin Jones on Friday, 11 January 2019