Mae adroddiadau’n awgrymu bod bron i fil o swyddi Ford yn y fantol yn ne Cymru.
Mae gan y cwmni ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac mae’n debyg y gallai gael ei effeithio gan gynlluniau arfaethedig y cynhyrchwr ceir.
Yn ôl ffynhonnell, mae 1,150 o swyddi ledled y Deyrnas Unedig dan fygythiad, ac mae bron i 1,000 o’r rheiny yn y ffatri Gymreig.
Byddai dau gam i’r toriadau, gyda’r proses yn dod i ben yn 2021 yn ôl adroddiadau.
Mae Ford wedi gwrthod cadarnhau’r ffigurau, ond wedi datgelu eu bod yn ymgynghori gydag undebau.
Gwnaeth y cwmni gyhoeddi ddydd Iau (Ionawr 10) eu bod yn gobeithio dwysau ymdrechion i arbed arian.
“Dinistriol”
Mae’r Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi ymateb i’r adroddiadau trwy ymrwymo i helpu gweithwyr Ford de Cymru.
“Mi fyddai hyn yn ddinistriol i’r gweithwyr yn ogystal ag economi Cymru,” meddai.
“Os caiff ei gadarnhau, byddai’n golygu bod y safle Ford yn colli mwyafrif o’i weithlu. Gwnaf bopeth y gallaf i wneud yn siŵr bod y gweithwyr yn cael eu cefnogi, a bod eu hawliau’n cael eu hamddiffyn.”