Mae Siân Gwenllian, Aelod Cynulliad Plaid Cymru yn Arfon, wedi herio’r cyflwynydd radio Jeremy Vine i ddod i Gymru.
Daw’r gwahoddiad yn dilyn ei ymateb i ffrae, lle mae’n ymddangos iddo gymharu’r Gymraeg â iaith dramor.
Mae Siân Gwenllian yn dweud mewn neges ato y dylai ddod i Gymru “fel y gallwch ddeall beth mae’n ei olygu i fyw mewn cymuned lle mai’r Gymraeg yw’r iaith gyfathrebu o ddydd i ddydd”.
Cefndir
Dechreuodd y drafodaeth ar ôl i Fanc Lloyds yn wreiddiol wrthod derbyn siec Gymraeg wedi’i hysgrifennu gan Gyngor Tref Aberteifi.
Ar y rhaglen, holodd Vine wrandawr o Bontypridd a ddywedodd fod siaradwyr Cymraeg “yn meddwl eu bod yn well nag unrhyw un arall.”
Dywedodd y dyn: “Os ewch chi i unrhyw dafarn yng ngorllewin Cymru . . . yng ngogledd Cymru, mae nhw i gyd yna yn siarad Saesneg, ond cyn gynted a mae nhw yn dod mewn a chlywed fy acen i – mae nhw yn dechrau newid i’r Gymraeg, fel na allwn ni eu deall nhw.
“Dwi’n ei chasáu, dwi jyst yn casáu’r iaith.”
Fe wnaeth dau o wrandawyr eraill, un o Gaernarfon ac un arall o Gaerdydd, ymateb i roi sialens i’w sylwadau.
Cafodd y rhaglen ei beirniadu gan ddwsinau o bobl oedd yn honni fod y sylwadau gwrth-Gymreig yn “nonsens”.
Dywedodd un, William Jones, ar ei gyfrif Trydar: “Fe gerddais i mewn i dafarn ym Mharis yr wythnos cyn y Nadolig . . . pwy ‘fasa’n meddwl, Ffrancwyr yn siarad Ffrangeg yn Ffrainc.”
Fe ymatebodd Jeremy Vine gan ofyn: “Ydi Ffrainc yn y Deyrnas Gyfunol”.
Gwahoddiad
“Hoffwn eich gwahodd i ymweld â ni fel y gallwch ddeall yr hyn mae’n ei olygu i fyw mewn cymuned lle mai’r Gymraeg yw’r iaith gyfathrebu o ddydd i ddydd,” meddai Siân Gwenllian yn ei neges.
“Efallai y byddwch yn gweld wedyn pam fod eich sylwadau diweddar am yr iaith Gymraeg yn sarhaus dros ben i’n hunaniaeth, ein diwylliant a’n ffordd o fyw.”
Ond wrth amddiffyn ei hun, dywed Jeremy Vine nad oedd e’n cymeradwyo’r stori am bobol yn troi i siarad Cymraeg mewn tafarn – honiadau sy’n cael eu gwneud yn aml gan bobol ddi-Gymraeg.
Ymateb Jeremy Vine
Mae Jeremy Vine wedi ymateb ar Twitter, gan syrthio ar ei fai.
“Am nad yw’n glir o’r sgwrs hon, Sian, ga i dynnu sylw at y ffaith na wnes i adrodd y stori wreiddiol am siaradwyr Cymraeg yn y dafarn, nac wedi ei chymeradwyo.
“Dim ond cwestiynu roeddwn i a oedd y gymhariaeth â Paris/Ffrainc o gymorth.
“Wnes i ddim dewis fy ngeiriau’n dda iawn, mae’n amlwg.”