Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad ar ddynes oedd yn loncian yn ardal Y Rhath, Caerdydd.

Roedd y wraig 51 mlwydd oed yn loncian ar ffordd Lake Road East ac wedi troi i gyfeiriad Wild Gardens Road tua 8.30pm nos Sul pan ymosododd dyn arni.

Cafodd y ddynes ei chludo i’r ysbyty gyda mân anafiadau i’w llaw a’i phen yn dilyn yr ymosodiad.

“Fe wnaeth y dyn ymddangos yn gyflym o flaen y ddynes ac fe deimlodd drawiad ar ochr ei phen,” meddai llefarydd ar ran yr Heddlu, Alan Church.

“Fe ddigwyddodd y cyfan yn gyflym ac fe redodd y dyn i ffwrdd i gyferiaiad Lake Road East.

“Yna, fe eisteddodd y ddynes i lawr, sylwi bod ganddi anafiadau ac fe wnaeth aelodau o’r cyhoedd ei chynorthwyo.

“Mae’r digwyddiad hwn yn un hynod anghyffredin ac rydan ni’n apelio ar unrhyw un a welodd y dyn hwn neu sydd wedi dod i gysylltiad â fo i gysylltu gyda’r Heddlu”.

Mae swyddogion ychwanegol yn patrolio yn yr ardal.

Fe ddylai unrhyw un a gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 02920 774 233 neu gysylltu’n ddienw â Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.