Mae mwy na 120 o bobl wedi cael rhybudd ynglyn  â’u hymddygiad tuag at staff ysbyty yng Nghaerdydd.

O dan gynllun ar y cyd rhwng Heddlu De Cymru a Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, mae nifer o lythyron wedi cael eu hanfon – y cyntaf o bedwar cam sy’n arwain at Asbo.

Cafodd y cynllun ei sefydlu ym mis Ionawr eleni, ond mae wedi cael ei ehangu’n ddiweddar gan ganiatau i nyrsys lenwi ffurflenni am ddigwyddiadau yn ogystal â staff plismona’r ysbyty a gweithwyr diogelwch.

Dywedodd Swyddog Heddlu Cymunedol Laura Moore, sy’n gweithio yn yr ysbyty, bod na gynydd mawr wedi bod yn nifer y digwyddiadau yn ddiweddar.

Dywedodd: “Mae hyn o ganlyniad i ganiatau i’r staff nyrsio lenwi ffurflenni os ydyn nhw’n gweld rhwyun yn ymddwyn yn fygythiol. Mae nhw’n anfon y ffurflenni at fy nghydweithiwr PC Stuart Bryant a fi, ac os oes trosedd wedi ei gyflawni yna mae’r troseddwr yn cael ei arestio neu mae llythyr o rybudd yn cael ei anfon atyn nhw.”

Alcohol

Ychwangodd bod y rhan fwyaf o achosion o ymddygiad anghymdeithasol yn yr adran frys o ganlyniad i or-yfed alcohol, a bod y troseddwyr o bob oed.

Dywedodd: “Er ein bod ni wedi anfon 129 o lythyron, dim ond 10 o’r rheiny sydd wedi ail-droseddu sy’n dangos eu bod nhw’n atal pobl rhag ymddwyn yn fygythiol.”

Dywedodd David Francis, cadeirydd Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, bod y cynllun wedi bod yn llwyddiant hyd yn hyn.