Dywed Prifysgol Bangor nad oes ganddyn nhw gynlluniau i ail-benodi Prif Weithredwr i gynllun Pontio yn y dyfodol agos, yn dilyn ymadawiad y Prif Weithredwr Robert O’Dowd ym mis Awst.

Cafodd Robert O’Dowd, sy’n ddi-Gymraeg, ei benodi fel Prif Weithredwr llynedd ac roedd disgwyl i’r ganolfan agor yn 2013. Fe adawodd ei swydd gan ddweud ei fod yn awyddus i barhau ei sgiliau entrepreneuraidd a busnes mewn meysydd eraill.

Eisoes, roedd Alun Ffred Jones, AC Plaid Cymru wedi galw am dalu llai o gyflog i olynydd Prif Weithredwr cynllun Pontio ym Mhrifysgol Bangor.

Mae Prifysgol Bangor wedi cadarnhau wrth Golwg360 eu bod wedi “sefydlu Uwch Dîm Rheoli i arwain y fenter dan gadeiryddiaeth yr Is-Ganghellor.”

“Rydym wedi sefydlu Uwch Dîm Rheoli i arwain y fenter dan gadeiryddiaeth yr Is-Ganghellor ac wedi adolygu cyfrifoldebau gwahanol staff o fewn y Brifysgol mewn perthynas â Pontio yn dilyn ymadawiad y Prif Weithredwr,” meddai llefarydd ar ran y Brifysgol wrth Golwg360.

Cyfarwyddwr Artistig

“Ar hyn o bryd, nid oes gennym gynlluniau i ail-benodi Prif Weithredwr yn y dyfodol agos ond rydym yn awyddus i benodi Cyfarwyddwr Artistig,” meddai’r llefarydd.

Mae’r Brifysgol wedi dweud wrth Golwg360 bydd “gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol” ar gyfer swydd y Cyfarwyddwr Artistig.