Mae dyn 28 oed wedi cael ei gyhuddo o gynnau tân yn fwriadol yn ardal Castellnewydd Emyn ddechrau’r wythnos.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i adeilad Riverside Health yn Adpar yn ystod yr oriau mân fore Mawrth (Tachwedd 27).
Ni chafodd neb ei anafu yn ystod y digwyddiad.
Mae disgwyl i’r dyn, sydd o’r ardal leol, wynebu Llys Ynadon Aberystwyth yn ystod y dydd heddiw, wedi’i gyhuddo hefyd o ladrata ac o dwyll.