Mae teulu dyn y cafwyd hyd i’w gorff yn Llaneirwg ddydd Iau wedi talu teyrnged iddo, gan apelio am wybodaeth am ei farwolaeth.
Daeth yr heddlu o hyd i gorff Anthony Winter, 32 oed o Bentwyn, mewn coedwig toc cyn 7.15 fore Iau (Tachwedd 22).
Mae llanc 16 oed, dau ddyn 19 a 27 oed, merch 17 oed a dynes 19 oed wedi’u harestio ar amheuaeth o’i lofruddio, ac maen nhw yn y ddalfa.
Cafodd pumed person ei arestio ddydd Sadwrn.
‘Ein math ni o berffaith’
“Fore Iau, fe wnaethon ni golli ein brawd, a chollodd ei ferch ddwy oed brydferth ei thad. Roedd Anthony yn caru ei ferch fach yn fawr.
“Efallai nad oedd Anthony yn berffaith, ond ein math ni o berffaith oedd e.
“Mae ei deulu’n torri eu calonnau yn sgil ei farwolaeth, yn enwedig o dan yr amgylchiadau hyn.
“Ymosodwyd arno fe’n dreisgar, ac fe gafodd ei adael ar ei ben ei hun i farw. Doedd e ddim yn haeddu marw yn y fath fodd.”
Mae’r teulu’n apelio am wybodaeth ynghylch ei farwolaeth.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.