Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i lofruddiaeth dyn y cafwyd hyd i’w gorff mewn coedwig yn Llaneirwg yng Nghaerdydd wedi arestio dau arall mewn perthynas â’r achos.

Cafodd corff dyn 32 oed ei ddarganfod am oddeutu 7.15 fore Iau.

Mae llanc 16 oed a dyn 27 oed yn y ddalfa ers ddoe (dydd Gwener, Tachwedd 23), ac mae merch 17 oed a dyn 19 oed bellach wedi’u harestio hefyd.

Dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall, ac maen nhw’n apelio am wybodaeth.