Mae dau aelod o Lywodraeth Cymru yn galw am weithredu ar frys er mwyn lleihau’r perygl o gam-drin, esgeuluso ac ecsbloetio plant ac oedolion yng Nghymru.
A hithau’n Wythnos Ddiogelu yr wythnos hon, mae’r Gweinidog Plant, Pobol Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies a’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams yn dweud eu bod yn gofidio am nifer y bobol sy’n dioddef yng Nghymru bob blwyddyn.
Yn ôl ystadegau, mae bron i 3,000 o blant yng Nghymru ar gofrestr warchod yn sgil esgeuluso neu gam-drin seicolegol neu rywiol, neu ddull arall o gam-drin.
Ac mae’r awdurdodau lleol yn ymwybodol o 19,000 o oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.
“Cwbl annerbyniol”
Cafodd y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ei chyflwyno yn 2016 i gryfhau’r trefniadau i blant gan osod dyletswydd ar y Gwasanaeth Iechyd, yr heddlu, y gwasanaeth prawf a thimau troseddau ieuenctid i adrodd am bryderon fod plentyn mewn perygl.
Yn ychwanegol, mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i ymchwilio os ydyn nhw’n credu bod plentyn mewn perygl.
“Mae cam-drin ac esgeuluso plant a phobol ifanc yn gwbl annerbyniol,” meddai Huw Irranca-Davies. “Un o’r agweddau mwyaf dirdynnol ar fy ngwaith fel Gweinidog yw cael adroddiadau am blant ac oedolion sydd wedi cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso’n ofnadwy.
“Fel llywodraeth, rydym wedi cyflwyno cyfreithiau newydd llym i sicrhau bod dulliau cadarn mewn grym gennym i ddiogelu plant ac oedolion.
“Rwy’n gofyn i bawb ystyried pa bethau y gallant hwy eu gwneud, mae’r ffordd y mae pobol yn ymateb ac yn gweithredu yn unol â’u pryderon yn bwysig oherwydd rwy weithio gyda’n gilydd, gallwn helpu i gadw plant ac oedolion yn ddiogel rhag cael eu cam-drin.”
Ymgyrch drwy Gymru gyfan
Mae Llywodraeth Cymru yn lansio ymgyrch drwy Gymru gyfan yr wythnos hon i ddarparu gwybodaeth i ymarferwyr a rhieni a gofalwyr am gam-drin, esgeuluso ac ecsbloetio.
Ar ben hynny, fe fydd sesiynau codi ymwybyddiaeth hefyd yn cael eu cynnal, ac mae disgwyl i 1,000 o bobol elwa arnyn nhw.
“Mae’r Wythnos Ddiogelu yn gyfle pwysig iawn i ni gydnabod y rôl hanfodol sydd gan ysgolion o ran diogelu ein plant a’n pobol ifanc,” meddai Kirsty Williams.
“Staff ein hysgolion sy’n dod i gysylltiad â dysgwyr o ddydd i ddydd, felly maent mewn sefyllfa dda i adnabod arwyddion cam-drin ac esgeulustod mor gynnar â phosibl er mwyn bod camau’n cael eu cymryd a chymorth yn cael ei roi.
“Bydd yr ymgyrch hon yn codi ymwybyddiaeth yng nghymunedau ysgolion a hefyd yn sicrhau bod plant a phobol ifanc a staff yr ysgolion yn gwybod at bwy i droi i gael cymorth.”