Bydd Ynysoedd Prydain yn mwynhau Haf Bach Mihangel yr wythnos nesaf wrth i’r tymheredd gyrraedd 26 gradd Celsius mewn rhai mannau, yn ôl proffwydi’r tywydd.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd eu bod nhw’n rhagweld y bydd yna sawl diwrnod o dywydd sych a chynnes o ddydd Mawrth ymlaen.

Bydd y tymheredd yn codi i’r 20au uchel, o’i gymharu â’r cyfartaledd ar gyfer yr adeg yma o’r flwyddyn, sef 16.1 gradd Celsius.

Ond yn y dwyrain fydd y gorau o’r heulwen a’r tywydd braf, medden nhw.

“Rydyn ni’n sicr yn mynd i weld tywydd sych ac  annhymhorol o gynnes yn cyrraedd y wlad o ddydd Mawrth ymlaen, yr wythnos nesaf,” meddai Tom Morgan o’r Swyddfa Dywydd.

“Fe allai hefyd fynd yn boethach wrth i’r wythnos fynd rhagddo, a gallai’r tymheredd gyrraedd 25-26 gradd Celsius ar ddydd Iau a Gwener.”

Mae proffwydi’r tywydd yn credu y gallai’r tywydd da barhau ym mis Hydref, ar ôl haf oerach na’r disgwyl a thywydd gwlyb a gwyntog dros yr wythnosau diwethaf.

“O ddechrau’r wythnos nesaf ymlaen fe fydd gwyntoedd cynnes y cyfandir yn chwythu  o gyfeiriad y de ddwyrain,” meddai llefarydd ar ran cwmni tywydd MeteoGroup.

“Erbyn dydd Mercher bydd y tymheredd pedair neu pum gradd yn uwch na’r cyfartaledd ar draws Ynysoedd Prydain.”