Cafodd yr A40 ei hailagor i’r ddau gyfeiriad rhwng Caerfyrddin a Sanclêr fore heddiw (dydd Sul, Hydref 28) yn dilyn gwrthdrawiad difrifol.

Roedd y ffordd ynghau am oddeutu saith awr yn dilyn y gwrthdrawiad yn ardal Llanllwch am oddeutu 8.50yh neithiwr (nos Sadwrn, Hydref 27).

Roedd oedi hir yn yr ardal yn dilyn y digwyddiad, ond cafodd y ffordd ei hailagor am oddeutu 3.30yb.