Union 52 o flynyddoedd yn ôl i heddiw (dydd Sul, Hydref 21), cafodd 116 o blant a 28 o oedolion eu lladd yn nhrychineb glofaol Aberfan.
Cafodd Ysgol Gynradd Pant-glas ei tharo gan filoedd o dunnelli o wastraff glo ar fore gwlyb yn y gymuned lofaol ger Merthyr Tudful.
Cafodd yr ysgol a 18 o dai eu claddu ac ymhlith y rhai fu farw roedd nifer o athrawon yr ysgol a’r brifathrawes Miss Jennings, wrth i nifer ohonyn nhw geisio cysgodi’r plant.
Y Bwrdd Glo Gwladol gafodd y bai am y digwyddiad yn dilyn gwrandawiad tribiwnlys, a nifer fawr o bobol yr ardal yn eu beio am eu “hanallu”.
Cofio
Mae Cymru wedi bod yn cofio’r digwyddiad ar y gwefannau cymdeithasol heddiw.
Heddiw, cofiwn bawb gafodd eu heffeithio gan drychineb Aberfan 52 mlynedd yn ôl. Ni wnawn byth eich anghofio #cofioAberfan. pic.twitter.com/0U9SJRIGKW
— Cynulliad Cymru (@CynulliadCymru) October 21, 2018
Cofiwch Aberfan. Remember Aberfan. pic.twitter.com/1bx6CtdriJ
— Dai Lloyd (@DaiLloydAM) October 21, 2018
52 mlynedd yn ôl, cafodd 144 o bobl, y rhan fwyaf ohonynt yn blant, eu lladd yn nhrychineb #Aberfan. Ni fyddwn byth yn anghofio ❤ #CofioAberfan #AberfanDisaster
— Sarah Jane (@sezzajane23) October 21, 2018
Bum deg dau mlynedd ers y trasiedi yn Aberfan ar 21 Hydref 1966, cofiwn am y rheiny fu farw a safwn gyda chymuned Aberfan.
144 people lost. 116 parents whose children never came home. 52 years passed, but always in our thoughts. We stand with the community of Aberfan.
— Adam Price (@Adamprice) October 21, 2018
Er cof am #aberfan 💔
— LisaS (@Stophy71) October 21, 2018
#Aberfan #cofioaberfan #bythynangof #NeverForget 😔😢x pic.twitter.com/O5dF08xHzM
— Eluned (@ElunedMY) October 21, 2018
116 o blant
28 o oedolion
Yn colli eu bywydau mewn hunllef yn Aberfan. #cofioaberfan ♥️ pic.twitter.com/8bhDETdYnZ— Maria Jones (@mariajones79) October 21, 2018
Heddiw rydym yn cofio am y 116 o blant a 28 oedolyn a gollodd eu bywydau yn ystod trychineb Aberfan ac yn talu teyrnged i’r holl wasanaethau brys a beryglodd eu bywydau er mwyn helpu’r dioddefwyr a’r gymuned. Ni chânt eu hanghofio fyth 🕯 #CofioAberfan https://t.co/VkGE7juP9S
RH— Heddlu De Cymru (@HeddluDeCymru) October 21, 2018