Mae fideo gan grŵp o Falaysia sy’n dynwared côr Only Men Aloud wedi denu miloedd o wylwyr ar YouTube.

Cafodd y fideo ei greu gan grŵp o ddynion yn y dwyrain pell ar gyfer priodas cyfaill.

Ffilmiodd y naw dyn, The Jimbang, eu hunain yn meimio i fersiwn Only Men Aloud o gân ‘Angels’ Robbie Williams.

Cafodd ei ddangos am y tro cyntaf mewn priodas ym Malaysia cyn cael ei uwch-lwytho i’r we.

“Roedden ni wedi gweld y fideo ar YouTube, ac mae’n wych,” meddai Craig Yates o Only Men Aloud.


Only Men Aloud
“Maen nhw wedi gwneud jobyn proffesiynol iawn. Mae’n braf gweld pobol yn ceisio ein hefelychu ni!

“Mae’n rhyfedd feddwl ein bod ni wedi chwarae rhan yn nydd hapus pâr priod a Malaysia, ac rydyn ni’n dymuno’r gorau i Kevin a Debbie.”

Mae Only Men Aloud wedi cyhoeddi dau albwm â chwmni Universal ers dod yn gyntaf ar raglen Last Choir Standing y BBC yn 2008.