Yn ei chynhadledd yn Aberteifi heddiw mae Plaid Cymru wedi penderfynu arddel polisi o fod eisiau datgriminaleiddio cocên a heroin.
Ar hyn o bryd mae cyffuriau caled yn anghyfreithlon, ond yn ôl y Blaid mae’r ymdrechion i’w hatal rhag cael eu cymryd – y ‘War on drugs’ – yn “fethiant llwyr”.
Dylid trin y rhai sy’n gaeth i gyffuriau fel cleifion ac nid troseddwyr, yn ôl y Blaid.
Ond roedd Plaid Cymru Ifanc, wnaeth gynnig y polisi newydd, yn pwysleisio nad ydyn nhw o blaid defnyddio cyffuriau caled.