Mae ymgyrchwyr sy’n gwrthwynebu cynlluniau i symud mwd o hen orsaf niwclear yng Ngwlad yr Haf i Fae Morgannwg, wedi rhoi’r gorau i’w brwydr gyfreithiol yn yr Uchel Lys.
Roedd y grŵp, a oedd yn cynnwys y cerddor, Cian Ciarán, a’r Aelod Cynulliad, Neil McEvoy, wedi ceisio atal cwmni EDF rhag cludo 300,000 tunnell o fwd o orsaf Hinkley Point C i safle sydd dros o filltir o Fae Caerdydd.
Roedd disgwyl iddyn nhw glywed dyfarniad yr Uchel Lys yng Nghaerdydd heddiw (dydd Mawrth, Medi 2), ond yn dilyn y cyhoeddiad y bydd y mater yn cael ei ddadlau yn y Cynulliad ar Hydref 10, mae’r ymgyrchwyr wedi tynnu eu her gyfreithiol yn ôl.
“Rydym yn tynnu’r gwaharddiad yn ôl gan nad yw bellach yn gyfle olaf,” meddai Neil McEvoy. “Fe fyddwn ni’n trafod y mater yn y Cynulliad.”
“Newyddion da”
Mae’r ymgyrchwyr yn honni bod y mwd sy’n cael ei gludo o Wlad yr Haf yn cynnwys ymbelydredd, ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru ac asiantaeth Llywodraeth Prydain, CEFAS, yn dweud ei fod yn ddiogel.
Mae EDF wedi ymateb i gyhoeddiad yr ymgyrchwyr drwy ddweud ei fod yn “newyddion da”.
“Mae’r penderfyniad i ohirio’r achos yn newyddion da ar gyfer prosiect sy’n hanfodol ar gyfer dyfodol ynni’r Deyrnas Unedig ac sy’n darparu gwaith i 25 o gwmnïau Cymreig a 1,000 o weithwyr Cymru,” meddai llefarydd ar ran y cwmni.
“Fe wnaeth EDF bob dim a oedd ei angen wrth wneud cais am drwydded i gloddio a chludo mwd i Aber Hafren.
“Dyw’r mwd ddim yn wahanol i unrhyw fwd arall ar hyd yr arfordir ac mae wedi cael ei brofi’n helaeth gan arbenigwyr annibynnol sydd wedi cadarnhau nad yw e’n fygythiad i iechyd dynol na’r amgylchedd.
“O dan gyfraith y Deyrnas Unedig, dyw’r mwd ddim yn cael ei ystyried yn ymbelydrol.”