Cymdeithas yr Iaith ar do pencadlys S4C
Mae pum aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dringo i ben to pencadlys S4C ym Mharc Ty Glas, Llanisien bore ma gyda larymau a chwibanoglau mewn ymdrech i gael swyddogion y Sianel i gymryd dyfodol S4C yn fwy difrifol. Mae nifer o aelodau eraill yn picedu’r adeilad ar ôl treulio gwylnos yno neithiwr.

Fe fydd yr ymgyrchwyr hefyd yn galw ar i reolwyr y sianel sefyll yn erbyn cynlluniau’r BBC a’r Llywodraeth a ddaw â’r sianel fel darlledwr annibynnol i ben. Yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd y BBC a’r Llywodraeth gytundeb newydd a fydd yn golygu y bydd gan y gorfforaeth reolaeth lwyr dros gyllideb S4C wedi 2015.

Mewn llythyr at Huw Jones, Cadeirydd S4C, fe ysgrifennodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Mae’n gliriach nag erioed bod y sianel fel darlledwr annibynnol ar fin diflannu. Rydym wedi dweud ers cyhoeddi’r cynllun gwreiddiol na fyddai S4C yn cadw’i hannibyniaeth, ond mae hynny’n fwy sicr nag erioed o dan y penderfyniadau diweddaraf. Mae’r BBC ei hun yn wynebu toriadau felly bydd yn anodd iawn i’r gorfforaeth ariannu’r sianel, o gael pennu’r gyllideb beth fydd yn gwarchod buddiannau S4C? Bydd S4C yn cystadlu am gyllideb gyda rhaglenni Saesneg y BBC a does dim disgwyl y bydd y gorfforaeth yn ystyried sianel mae wedi’i llyncu dros ei chynnyrch ei hun.

“Mae’r llywodraeth a’r BBC wedi dangos eisoes nad ydynt yn ystyried nac yn parchu’r sianel na Chymru – nid oeddech yn gwybod am y penderfyniad yma nes iddo gael ei ryddhau yn gyhoeddus… Gofynnwn felly i chi [rheolwyr S4C] ymuno a chodi llais gan dynnu allan o drafodaethau gyda’r BBC. S4C fydd y brawd bach a fydd yn cael ei ddiystyru bob tro.

“Wrth edrych i’r dyfodol rhaid sicrhau y bydd y sianel yn ffynnu ac yn gallu cynnig y ddarpariaeth orau i’w chynulleidfa. Er mwyn galluogi hynny gofynnwn i chi alw ar y llywodraeth i dynnu’r sianel o’r Mesur Cyrff Cyhoeddus er mwyn gwarchod plwraliaeth ac annibyniaeth darlledu yma yng Nghymru. Tynnwyd Channel 4 o’r Mesur felly nid oes rheswm na ddylid gwneud yr un peth i S4C. Byddai gwneud y ddau beth hyn yn rhoi neges glir i lywodraeth San Steffan a’r BBC – nad yw S4C yn fodlon cael ei sathru a bod y sianel yn fodlon brwydro dros ddyfodol darlledu yng Nghymru a thros ei chynulleidfa.”

Mae’r cynlluniau ar gyfer S4C yn golygu bod y llywodraeth yn torri ei grant i S4C o 94% dros bedair blynedd, a gofyn i’r BBC gyfrannu at gost y gwasanaeth a chymryd drosodd rhedeg y sianel. Ers i’r Llywodraeth gyhoeddi ei chynlluniau, mae degau o fudiadau, arweinwyr y pedair prif blaid yng Nghymru, yr Archesgob Cymru Barry Morgan, dau bwyllgor San Steffan, a degau o filoedd o bobl wedi mynegi eu gwrthwynebiad.

Yn ei feirniadaeth o’r cynlluniau ar gyfer S4C yn gynharach eleni dywedodd Archesgob Cymru, Barry Morgan:

“Cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud ynglŷn a dyfodol S4C fe ddylid cynnal arolwg annibynnol cynhwysfawr a thrylwyr i ddyfodol y Sianel. Mae arweinwyr pob un o’r pedair prif Blaid yng Nghymru wedi galw am hyn ac mae’n hanfodol fod y safbwynt unedig hwn yn cael ei ystyried.

“Pan sefydlwyd S4C yn y lle cyntaf yr oedd deddfwriaeth gwlad oedd yn ei gwarchod rhag ymyrraeth wleidyddol. Ond yn awr, o basio’r Mesur Cyrff Cyhoeddus fe gollir yr amddiffyniad hwnnw.”

Fideo o’r brotest: