Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth yn dilyn damwain draffig angheuol ar ffordd yr A40 ger Rhaglan dros y penwythnos.

Bu’r digwyddiad yn ystod oriau mân y bore ddydd Sadwrn (Medi 22) ac roedd yn cynnwys cerddwr a lori a oedd yn teithio i gyfeiriad y gogledd.

Bu farw’r cerddwr yn y fan a’r lle.

Mae Heddlu Gwent yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar y rhif, 101.