Mae llefarydd amgylchedd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd Llywodraeth Prydain yn neilltuo £36m am gynllun i gynhyrchu ynni fel rhan o brosiect Prifysgol Abertawe.

Daeth y cyhoeddiad am yr arian gan Ganghellor Llywodraeth San Steffan, Philip Hammond.

Bydd y dechnoleg sy’n cael ei chynhyrchu yn defnyddio gwres a golau i greu trydan, ac fe allai ddisodli walydd, toeon a ffenestri traddodiadol mewn tai, gweithleoedd, ysgolion ac ysbytai.

Caiff yr ynni ei storio cyn cael ei ryddhau drwy systemau ynni clyfar.

‘Positif a chyffrous’

“Mae hwn yn gyhoeddiad positif a chyffrous iawn gan y Canghellor,” meddai Andrew RT Davies, llefarydd ynni’r Ceidwadwyr Cymreig.

“Ynni gwyrdd yw’r dyfodol, yn ddiau, a’r cyfeiriad cywir i fynd iddo ac fel Ceidwadwyr Cymreig, gobeithiwn weld y fenter hon yn llwyddo o ran ei hamcanion i dorri biliau ynni a lleihau allyriadau carbon.

“Tra bod hwn yn gam i’w groesawu, o safbwynt ynni, mae dirfawr angen hefyd i ni weld gwelliant yng nghapasiti ac isadeiledd grid os ydyn ni wir am feithrin chwyldro adnewyddadwy yn y wlad hon.

“Yn anffodus, mae llawer gormod o brosiectau ar hyn o bryd yn cael eu gwrthod neu’n methu â mynd yn eu blaenau yng Nghymru oherwydd diffyg capasiti, a rhaid i hyn newid.

“Mae angen i ni fynd ben-ben ar y mater hwn os ydyn ni am yrru a diogelu dyfodol gwyrdd go iawn ar gyfer cenedlaethau i ddod yng Nghymru.”