Bydd €4.3m o arian yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei fuddsoddi i ddatblygu systemau monitro morol uwch ym Môr Iwerddon.
Nod y prosiect STREAM (Sensor Technologies for Remote Enviriomental Aquatic Monitoring) yw dod â phartneriaid o Gymru ac Iwerddon ynghyd er mwyn cael gwell ddealltwriaeth o effaith y newid yn yr hinsawdd.
Maen nhw hefyd yn gobeithio gostwng cost arsylwi morol a chyflymu’r broses o ddarparu data.
Yn ôl yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, mae’r prosiect yn helpu cymunedau ar ddwy ochr Môr Iwerddon i “leddfu effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.”
Y prosiect
Mae’r prosiect, sydd gwerth £5.4m, yn cael ei gefnogi drwy Raglen Cydweithredu Tiriogaethol Iwerddon Cymru yr Undeb Ewropeaidd, ac yn cael ei arwain gan Sefydliad Technoleg Waterford mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe a Sefydliad Technoleg Corc.
Er mwyn casglu gwybodaeth, bydd STREAM yn datblygu synwyryddion sy’n medru darparu data amgylcheddol ar unwaith drwy bortholion ar y we.
Byddan nhw hefyd yn datblygu dyfeisiau symudol a synwyryddion sydd wedi’u masgynhyrchu ar gyfer sefydliadau sy’n gyfrifol am ddiogelu a gwella dyfroedd Cymru ac Iwerddon.
Bydd y data yn cael eu rhannu’n lleol er mwyn i gymunedau arfordirol ddysgu mwy am effaith leol newid yn yr hinsawdd.
“Gwarchod”
“Mae’n hanfodol bwysig gwarchod amgylchedd morol Cymru ac Iwerddon er lles ffyniant economaidd a mwynhad,” meddai Mark Drakeford.
“Dyma enghraifft ardderchog o’r ffordd mae cyllid yr Undeb Ewropeaidd yn galluogi partneriaid ar ddwy ochr Môr Iwerddon i helpu’r cymunedau i leddfu effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.