Mae sylwadau’r newyddiadurwraig ddadleuol, Katie Hopkins am y Gymraeg yn amlygu’r angen am addysg Gymraeg i bawb, meddai Cymdeithas yr Iaith.
Roedd Tamsin Davies, llefarydd ar ran y Gymdeithas, yn ymateb ar ôl i Katie Hopkins ladd ar addysg Gymraeg orfodol mewn neges ar ei thudalen Twitter.
Roedd hyn yn cynnwys y nifer uchel o bobol sy’n addysgu eu plant gartref yng Ngheredigion.
Daeth sylwadau’r newyddiadurwraig wrth iddi ymweld â Chymru.
‘Un o’r anghyfiawnderau mawr’
Dywedodd Tamsin Davies: “Mae Katie Hopkins yn enwog am ei sylwadau adain-dde eithafol yn erbyn ffoaduriaid, Mwslemiaid a grwpiau lleiafrifol eraill, felly mae’r sylwadau am y Gymraeg yn rhan o’i rhagfarn ehangach.
“Pan ddaw hi at y system addysg, un o’r anghyfiawnderau mawr yng Nghymru yw bod y rhan fwyaf o’n pobl ifanc yn gadael yr ysgol heb allu siarad yr iaith.
“Dyna pam rydyn ni’n ymgyrchu ers sawl blwyddyn am addysg Gymraeg i bawb.”