Roedd y dorf yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ei thraed ddwywaith cyn diwedd y gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon heno – wrth i ddwy seren adael y cae.
Gydag ugain mynd tan y chwiban olaf, fe dynnwyd yr amddiffynwr 17 oed, Ethan Ampadu, oddi ar y cae er mwyn rhoi cyfle i Matthew Smith.
Yna, ar 74:00 munud, fe gafodd Gareth Bale ei eilyddio, gyda Tyler Roberts yn dod i’r cae yn ei le.
O fewn munudau, roedd golwr Gweriniaeth Iwerddon yn gorfod arbed ergyd gan Matthew Smith (75 munud) ac un arall gan Tyler Roberts ymhen tri munud arall.
Fe gafodd Gymru gyfnodau da o basio’r bêl yn yr ail hanner.
Goliau
Fe ddaeth dwy gôl yr ail hanner – pedwaredd Cymru a gôl gyntaf yr ymwelwyr – a hynny yn weddol fuan.
Connor Roberts sgoriodd gyntaf i’r crysau cochion, a hynny wedi deg munud o chwarae (55 munud o’r gêm).
Roedd hi’n ddeg munud arall pan fanteisiodd Shaun Williams ar gamgymeriad gan Aaron Ramsey a rhoi’r bêl yng nghefn rhwyd Cymru ar ran Gweriniaeth Iwerddon.
Fe fu ond y dim i Gareth Bale, Tyler Roberts a Joe Allen hefyd â sgorio yn ystod yr ail hanner tros Gymru.
Roedd dros 27,000 o dorf yn Stadiwm Dinas Caerdydd i wylio’r gêm.