Bydd noson arbennig yn cael ei chynnal yn Ninas Mawddwy ar 29 Medi, pan fydd dwy ffilm, sy’n adrodd hanes enwog Gwylliaid Cochion Mawddwy yn cael eu dangos yn y neuadd bentref.

Mae’r ffilmiau yma yn dyddio nôl i 1936 a 1938, a dyma’r tro cyntaf ers degawdau iddynt gael eu dangos ar y sgrin fawr.

Mae’r ffilmiau yma yn dyddio nôl i 1936 a 1938, a dyma’r tro cyntaf ers degawdau iddynt gael eu dangos ar y sgrin fawr.

Yn ddiweddar, mae Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, gyda chymorth pobl lleol, wedi llwyddo i ddod o hyd i’r ffilmiau yma, a hanner dwsin o ffilmiau eraill a wnaed rhwng 1929 a 1938 yn ardal Dinas Mawddwy.

Ffilmwyd nhw gan dri gŵr, sef Ficer eglwys Llanymawddwy, y Parch H E Hughes, ffarmwr lleol, Richard Ellis Jones,  a John Meredith, gŵr o Wolverhampton a arferai ddod ar ei wyliau i’r ardal yn flynyddol.

1936

Trigolion yr ardal sydd yn chwarae rhannau’r Gwylliaid, y ffermwyr a’r Barwn a’i fintai, a defnyddwyd lleoliadau o amgylch Llanymawddwy ar gyfer y ffilmio. Gwnaed fersiwn ddu a gwyn o’r ffilm yn 1936, a bu’r ymateb mor gadarnhaol yn lleol, crewyd fersiwn liw ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Dywedodd Anwen Pari Jones, Swyddog Datblygu a Rheoli Mynediad, Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru,

“ Rydym yn hynod o falch bod y ffilmiau yma bellach yn ran o gasgliad yr Archif. Gallwn sicrhau eu bod yn cael eu diogelu i’r dyfodol, ac rydym yn edrych ymlaen i rannu’r ffilmiau gyda’r gynulleidfa yn y dangosiad ddiwedd y mis.”

Holi pobl leol

A bydd cyfle i gynulleidfa ehangach weld y ffilmiau ar y gyfres deledu ‘Pethe’. Mewn rhaglen arbennig fydd yn cael ei darlledu ar 18 Hydref, bydd Rhun ap Iorwerth yn olrhain yr hanes y tu cefn i gynhyrchu’r ffilmiau. Bydd yn holi pobol leol am eu hatgofion, ac am bwysigrwydd hanes y Gwylliaid i’r ardal.

Bydd hefyd yn holi’r cyfarwyddwr teledu John Hefin , ac arbenigwyr o’r Archif Sgrin a Sain am y fenter, a bydd camerau ‘Pethe’ yn Ninas Mawddwy noson y dangosiad i recordio’r cyfan.

Yn ogystal â hyn bydd modd gweld clipiau o’r ffilmiau ar wefan ‘Pethe’ am gyfnod, a chyfle i’r gwylwyr ymateb i’r ffilmiau yno hefyd.