Babi newydd
Mae angen 136 yn rhagor o fydwragedd yng Nghymru, meddai’r corff proffesiynol sy’n cynrychioli’r gwasanaeth.
Er bod nifer y babanod sy’n cael eu geni yng Nghymru wedi codi’n gyson ers wyth mlynedd, mae nifer y bydwragedd wedi dechrau cwymp, meddai Coleg Brenhinol y Bydwragedd.
Maen nhw’n dweud fod y diffyg yn un sylweddol – yn fwy na 10% o’r holl fydwragedd sydd ar gael ar hyn o bryd.
Fe ddaeth eu cyhoeddiad y diwrnod ar ôl i’r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, gyhoeddi strategaeth uchelgeisiol i wella’r gwasanaethau i ferched beichiog a mamau newydd.
Mae honno’n cynnwys creu Grŵp Cenedlaethol i ddatblygu gwasanaethau yn y maes, safonau cenedlaethol a mwy o bwyslais ar ofal cyflawn i ferched cyn, yn ystod ac wedi’r enedigaeth.
Diffyg ‘real a difrifol’
Ond, yn ôl y Coleg, os na fydd rhagor o fydwragedd, fe fydd rhai elfennau o’r gwasanaeth yn diodde’:
- Fydd pob mam sydd eisiau geni gartref ddim yn gallu gwneud hynny.
- Fydd rhai mamau ddim yn cael help gyda bwydo o’r fron.
“Mae Cymru wedi gwneud yn dda i gynnal niferoedd bydwragedd, ond mae’r cynnydd mawr mewn genedigaethau yn ystod y blynyddoedd diwetha’ wedi codi uwchben hynny,” meddai Cyfarwyddwr y Coleg yng Nghymru, Helen Rogers.
“Mae’r ffigurau hyn yn ddiffyg real a difrifol yn ein gwasanaethau mamolaeth ac mae angen rhoi sylw iddyn nhw. Mae pob ffigwr unigol yn cynrychioli bydwraig a ddylai fod yno’n gofalu am fenywod a’u babanod, ond sydd heb fod ar gael.”
Yr ystadegau
Yn ôl y Coleg, mae nifer y babanod sy’n cael eu geni yng Nghymru bob blwyddyn wedi codi o 19% rhwng 2002 a 2010, gan gyrraedd 36,000.
Roedd nifer y bydwragedd hefyd wedi codi ond, yn ystod y ddwy flynedd ddiwetha’, medden nhw, fe aeth i lawr o bron 10%. Mae bron 1,200 o fydwragedd yng Nghymru ar hyn o bryd.