Bydd dyn yn ymddangos gerbron y llys ar ôl iddo gael ei ddal yn gyrru 129 milltir yr awr ar ffordd yr A55 yn Ynys Môn.

Mae llun wedi’i rannu gan uned draffig Heddlu Gogledd Cymru yn dangos bod y gyrrwr yn teithio ar gyflymder sydd bron i ddwywaith yn fwy na’r terfyn cyfreithlon.

Mae’r heddlu’n dweud ei fod wedi cael gorchymyn i ymddangos gerbron y llys, ac fe all gael ei wahardd rhag gyrru yn sgil y drosedd.

 

Trosedd Band C

Mae gyrru ar gyflymder o 129mph mewn ardal 70mph yn cael ei gyfri’n ‘Drosedd Band C’.

Gyda throsedd o’r fath, fe all gyrrwr dderbyn chwe phwynt ar ei drwydded neu waharddiad rhag gyrru am rhwng saith a 56 diwrnod.

Fe all hefyd dderbyn dirwy sydd gwerth 150% o’i incwm wythnosol.