Mae cynghorydd lleol yn gobeithio y bydd y cwmni llaeth, Arla Foods, yn ail-fuddsoddi mewn safleoedd fel hufenfa Llandyrnog yn dilyn blwyddyn dda o ran elw.
Mae’r cwmni cydweithredol, sy’n eiddo i tua 11,200 o ffermwyr ledled Ewrop, wedi cyhoeddi heddiw eu bod yn ystyried rhannu elw’r flwyddyn gyda’u cyfranddalwyr, gyda’r gobaith o wneud taliadau ym mis Mawrth 2019.
Ond mae’r Cynghorydd Merfyn Parry o Landyrnog yn gobeithio y bydd yr elw’n gwneud iddyn nhw ailystyried eu penderfyniad i gau eu ffatri gaws yno – eu hunig un yng Nghymru. Mae 97 o swyddi yn y fantol.
Rhoi’r gorau i gynhyrchu
Ym mis Mai, fe gyhoeddodd y cwmni y byddan nhw’n rhoi’r gorau i gynhyrchu caws ar eu safle yno fel rhan o gynllun £400m i arbed costau, gan roi 97 o swyddi yn y fantol.
“Dydy o ddim yn fy synnu i ei bod nhw wedi gwneud gwell elw os ydyn nhw’n torri rhai o’u coste,” meddai’r Cynghorydd Merfyn Parry, sy’n cynrychioli Llandyrnog, wrth golwg360.
“Dw i’n gobeithio y gwnân nhw feddwl dwywaith am ail-infestio peth o’r elw maen nhw’n ei wneud yn ôl i rywle fel Llandyrnog.”
Fe gyhoeddodd Arla heddiw eu bod yn ystyried rhannu eu helw o fwy na £280 miliwn rhwng y ffermwyr oherwydd tywydd poeth yr haf sydd wedi achosi gofid ledled Ewrop.
Dyfodol y safle?
Mae Merfyn Parry yn dweud bod dirgelwch yn parhau ynghylch dyfodol yr hufenfa, er fod Arla Foods yn rhoi’r gorau i gynhyrchu caws, maen nhw wedi cadarnhau y bydd y safle’n parhau yn eu dwylo.
Fe fydd y cynghorydd yn rhan o gyfarfodydd gyda swyddogion y cwmni ddiwedd mis Medi a Thachwedd er mwyn ceisio cael ateb iawn ynglŷn â dyfodol y gwaith, meddai.
“Be faswn i’n lico gweld nhw’n gwneud efo’r safle yn Llandyrnog ydy ffeindio, wrach, ryw farchnad arall neu ryw product arall fasen nhw’n gallu ei wneud allan o’u llefrith er mwyn medru cadw Llandyrnog i fynd,” meddai.
“Does dim bwys be ydy o, a dweud y gwir, cyn belled ei fod yn cadw[‘r hufenfa] i fynd a chreu gwaith i bobol leol.”