Mae mam i fyfyrwraig o Brifysgol Glyndwr a fu farw ar ôl cymryd cemegyn colli pwysau wedi cefnogi galwadau i’w gwneud yn fwy anodd i brynu’r deunydd.

Ac yn ôl Fiona Parry, fe ddylai rhagor o bobol gael eu carcharu am ddynladdiad am werthu’r cemegyn, 2,4 – Dinithophenol, neu DNP.

Roedd hi’n ymateb i alwad gan dad o Loegr a gollodd ei ferch yntau – mae eisiau gweld DNP yn cael ei gynnwys ar restr o ffrwydron er mwyn ei wneud yn fwy anodd ei gael.

Fe ddywedodd Fiona Parry wrth Radio Wales ei bod wedi ei syfrdanu o ddeall pa mor hawdd oedd hi i’w merch, Eloise, brynu’r deunydd tros y We, pan fu farw yn 2015.

‘Rhagor o ddedfrydau’

Doedd hi ddim yn ymwybodol nes ar ôl colli ei merch fod y fyfyrwraig 21 oed o’r Amwythig yn cymryd y cyffur.

Fe gafodd gwerthwr o’r enw Bernard Robelo o Hamphsire garchar am saith mlynedd am ddynladdiad Eloiise Parry.

“Fe hoffen i weld rhagor o ddedfrydau o ddynladdiad,” meddai Fiona Parry, “a dw i’n gobeithio nad hwn fydd yr unig un.”

Cefndir

Mae DNP yn gemegyn sy’n cael ei ddefnyddio mewn prosesau diwydiannol ac, yn 1933, fe sylweddolodd un gwyddonydd ei fod yn gallu helpu pobol i golli pwysau.

Ond fe gafodd ei wahardd yn fuan wedyn oherwydd ei fod mor beryglus.

Fe allai fod yn gymwys i gael ei ystyried yn ffrwydryn oherwydd ei gynhysgaeth.