Bu farw’r Gymraes a’r archifydd o’r Unol Daleithiau, Martha A Davies, yn 77 oed.

Fe gafodd Martha Davies ei geni yn Santa Monica, California, yn ferch i Lucius a Josephine (Williams) Mull. Roedd yn ddisgynnydd i Myles Standish, capten llong y Mayflower.

Ar ôl derbyn gradd BA mewn Addysg Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Redlands, California, bu’n gweithio fel llyfrgellydd ym Mhrifysgol Michigan, Ann Arbor.

Yn ystod ei hoes, bu’n byw mewn nifer o wahanol lefydd, gan gynnwys Efrog Newydd, Minneapolis, Llundain ac Aberystwyth, lle dysgodd y Gymraeg gyda’i diweddar ŵr, James Dickey.

Bu Martha Davies hefyd yn gweithio am gyfnod fel glanweithydd deintyddol, ond yn ystod y blynyddoedd diwetha’ bu’n archifydd yn Archif Cymry America yng Nghanolfan Treftadaeth Gymreig y Gwastadeddau Mawr yn Nebraska.

Cafodd ei hanrhydeddu gan Orsedd y Beirdd yn 2016, a hynny am ei chyfieithiadau o hanesion cymunedau Cymreig Americanaidd a channoedd o ysgrifau coffa ac erthyglau o gylchgrawn Y Drych.

Mae wedi cyfieithu a chyhoeddi pedwar llyfr o hanes Cymry’r Unol Daleithiau, gan gynnwys fersiwn Saesneg o Hanes Cymry America gan y Parchedig R D Thomas a gafodd ei gyhoeddi’n wreiddiol yn 1872.

Ei phrosiect ola’ oedd y ffilm ddogfen fer, Pobl y Paith/People of the Prairie: The Welsh in Nebraska, sy’n olrhain hanes y mewnfudwyr Cymreig ac sy’n cyd-fynd â phen-blwydd y dalaith yn 150 oed.

Bu farw Martha Davies ddydd Iau diwetha’ (Awst 23) mewn cartref gofal yn Lincoln, Nebraksa, ar ôl cyfnod o salwch.