Mae dyn o Bowys wedi gwadu llofruddio ei wraig wrth iddo ymddangos gerbron llys heddiw.

Mae Christopher Kerrell, 35, o Drefyclo ym Mhowys yn gwadu lladd Hollie Kerrell, 28, ym mis Ebrill eleni.

Fe ymddangosodd yn Llys y Goron Caerdydd heddiw (dydd Llun, 20 Awst) ar gyfer gwrandawiad i gyflwyno ple.

Dywedodd Michael Jones QC ar ran yr erlyniad y byddai Christopher Kerrell yn sefyll ei brawf ar 27 Hydref.

Cafwyd hyd i gorff Hollie Kerrell, mam i dri o blant, dridiau ar ôl iddi ddiflannu o’i chartref yng Nghnwclas ger Trefyclo ar 22 Ebrill a chafodd ei gwr ei gyhuddo o’i llofruddio.

Fe fydd yn cael ei gadw yn y ddalfa nes i’r achos ddechrau ym mis Hydref.