Mae Dŵr Cymru yn ceisio adfer cyflenwad dŵr ardal Pontcanna heddiw (dydd Mawrth, Awst 7).
Yn ôl y cwmni, mae peipen ddŵr wedi torri, ac maen nhw’n gweithio i ddatrys y sefyllfa cyn gynted â phosib. Roedd llif mawr i’w weld yn yr ardal nos Lun.
Mae Dŵr Cymru hefyd wedi ymddiheuro am yr anghyfleustra – yn enwedig gan fod carafanwyr yr Eisteddfod Genedlaethol yn aros yn y maes swyddogol ar Gaeau Pontacanna.
Mae’r gwaith yn digwydd yn ardal Ffordd Caerdydd a Ffordd Penhill.