Mae llwybr iechyd newydd wedi cael ei lansio ar hyd Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog er mwyn helpu pobl i gynnal a gwella eu hiechyd.

Mae’r llwybr tua dwy filltir o hyd yn rhedeg o Fasn y Gamlas yn Aberhonddu i loc Brynich.

Mae arwyddion ar ei hyd yn dangos i gerddwyr pa mor bell maen nhw wedi eu cerdded, ac yn cysylltu â map o’r llwybr y bydd meddygon yn ei ddosbarthu i gleifion.

Mae’r cynllun yn ffrwyth partneriaeth rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Mae Cam wrth Gam yn enghraifft wych o’r modd mae ein parciau cenedlaethol nid yn unig yn dirweddau arbennig ond yn wych ar gyfer ein iechyd cyffredinol a’n lles,” meddai’r Gweinidog Amgylchedd Hannah Blethyn wrth agor y llwybr yn swyddogol ddoe.