Mae ymgyrchydd tros yr iaith Gernyweg am weld mwy o ddeunydd yn cael ei ddarlledu ar y we – ac mae’n dweud fod S4C yn batrwm y mae’n ei ddilyn.

Matthi ab Dewi yw sefydlydd Pellwolok ân Gernewegva (Teledu Cernyw), ac ers bron i flwyddyn mae wedi bod yn llwytho rhaglenni misol yn yr iaith ar-lein, yn wirfodol.

“Mae’n ymrwymiad anferthol,” meddai wrth golwg360, gan ategu bod creu cynnwys heb “ddim arian o gwbwl” yn “dipyn o her”.

Felly, mae wedi cymryd “cam mawr ymlaen” trwy ddechrau ymgyrch ar-lein i ariannu’r fenter – cam a fydd yn galluogi iddo hyfforddi rhagor o wirfoddolwyr a thalu am le i greu’r cynnyrch.

“Hoffwn ddatblygu hyn, fel bod gyda ni wirfoddolwyr yn cymryd rhan, gan greu rhagor o ddeunydd. Efallai byddai modd creu rhaglenni addysgiadol i blant…

“Mae gyda ni cymaint o broblemau, fel siaradwyr Cernyweg. Does dim llawer ohono ni. Mae atgyfodi’r iaith unwaith eto yn her anferthol.”

Hyd yma mae £3,380 wedi’u godi ar lein, ac mae Matthi ab Dewi yn gobeithio codi £6,000 i gyd – mae’n dweud ei fod wedi bod yn derbyn £65 y dydd, ar gyfartaledd, ers dechrau’r ymgyrch.

Dim arian i Gernyw

Roedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn arfer cyfrannu £150,000 y flwyddyn at yr iaith Gernyweg, ond mae’r cyllid hwnnw bellach wedi’i dorri.

Mae’n canmol Cyngor Cernyw am eu hymdrechion i gefnogi’r iaith – maen nhw’n ariannu deunydd radio – ond yn siarad yn llai ffafriol am San Steffan.

“Dyw Cernyw ddim yn derbyn unrhyw arian gan y Llywodraeth o gwbwl ar gyfer yr iaith,” meddai wrth golwg360.

“D’yn ni ddim yn cael arian i ddarlledu, dydyn ni ddim yn cael arian o unrhyw fath. Oherwydd penderfynodd y Llywodraeth Geidwadol eu bod am dorri’r swm pitw – swm hynod o isel – yr oedden yn derbyn o’r blaen.”