Mae’r gwleidydd Plaid Cymru sy’n nesaf ar y rhestr o enwau i gymryd lle Simon Thomas, yn dweud bod ganddi “lot o benderfyniadau mawr” i’w gwneud yn ystod y dyddiau nesaf – wedi i Aelod Canolbarth a Gorllewin Cymru ymddiswyddo.

Ar ei chyfrif Twitter, mae Helen Mary Jones yn cyfaddef ei bod mewn stad o sioc wedi ymadawiad Simon Thomas, ac mae’n “diolch” i’r rheiny sydd wedi cysylltu â hi’n barod i ddymuno’n dda iddi.

Helen Mary Jones, cyn-Aelod Cynulliad Llanelli, oedd yr enw nesaf ar restr o ymgeiswyr rhanbarthol Plaid Cymru ar gyfer y rhanbarth yn etholiad 2016. Felly, mewn proses sy’n digwydd yn otomatig pan mae Aelod yn ymddiswyddo, hi fyddai’n cymryd lle Simon Thomas.

Mae aelodau rhanbarth yn cael eu hethol yn ol canran y bleidlais yn y rhanbarth tros blaid benodol, felly ar sail y nifer o bobol a fotiodd dros Blaid Cymru yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, mae gan y blaid yr hawl i ddewis Aelod newydd oddi ar ei rhestr, heb orfod cynnal is-etholiad.