Mae tân wedi achosi difrod sylweddol i adeilad gwesty ar y prom yn Aberystwyth.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i westy Tŷ Belgrave tua 2 o’r gloch y bore heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 25).
Mae’r ffordd ynghau rhwng y llys ynadon a’r pier.
Mae’r gwasanaeth tân wedi llwyddo i reoli’r fflamau, ond mae to’r adeilad wedi’i ddinistrio’n llwyr, yn ôl adroddiadau.
Mae 14 o bobol wedi cael eu symud oddi yno.