Mae’r seiclwr o Gymru, Geraint Thomas, wedi ennill ei ail gymal yn olynol yn ras y Tour de France yn Ffrainc.
Ef oedd ar y brig yn La Rosiere ddydd Mercher (Gorffennaf 18) ac ar gymal Alpe d’Huez ddydd Iau (Gorffennaf 19).
Mae hynny’n golygu mai ef yw’r dyn cyntaf i ennill dau gymal mynyddig yn olynol ers 1993 – y seiclwr o’r Swistir, Toni Rominger, oedd y diwetha’ i wneud hynny.
Hefyd, Geraint Thomas yw’r seiclwr cyntaf erioed o wledydd Prydain, i ennill cymal Alpe d’Huez.
“Dw i yn fu seithfed nef,” meddai. “Dw i’n methu credu’r peth, mae’n wallgof.
“Hyd yn oed yn fy mreuddwydion rhyfeddaf, doeddwn i ddim yn credu y baswn i’n medru ennill yma. Bydda’ i’n cofio hyn am byth.”
Anwaraidd
Roedd rhywfaint o densiwn yn ystod y cymal, gyda phobol a ddaeth i wylio yn poeri a tharo Chris Froome, aelod arall o Tîm Sky.
Mae’r seiclwr o Gymru yn llym ei feirniadaeth.
“Os dyw pobol ddim yn hoffi Tim Sky, ac eisiau gweiddi aton ni, mae hynny’n iawn,” meddai. “Croeso i chi weiddi cymaint ag ydych chi eisiau. Ond, gadewch i ni rasio.
“Byddwch yn waraidd,” meddai wedyn.