Mae menter technoleg o Aberystwyth ymhlith llond llaw o brosiectau a fydd yn elwa o fuddsoddiad gan yr Undeb Ewropeaidd.
Un o adrannau’r brifysgol yno fydd yn gyfrifol am y fenter, a’i nod yw datblygu technoleg lloerenni a drôns i’w defnyddio yn y gofod.
Yn yr oes fodern hon, mae’r dyfeisiau yma yn cael eu defnyddio i greu mapiau, ac mae’n debyg y bydd y sector amaeth yn elwa o’r dechnoleg.
Mae’r fenter yn costio £3m, ac wedi derbyn £1.9m gan yr Undeb Ewropeaidd trwy law Llywodraeth Cymru.
Llwyfan byd-eang
“Mae hon yn enghraifft dda arall o sut mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi cyllid yr Undeb Ewropeaidd i helpu i sicrhau bod Cymru yn genedl sy’n gallu cystadlu ac sy’n barod i weithredu ar lwyfan byd-eang,” meddai’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford.
“Mae sicrhau bod arbenigedd ac ymchwil arloesol o’r radd flaenaf ar waith yn ein prifysgolion, ac yn cydweithio â’n busnesau, yn denu buddsoddiad ac yn sbardun i gyflogadwyedd yn y sector hwn sy’n tyfu mor gyflym.”