Mae’r newyddiadurwr rygbi o Gymru, Peter Jackson wedi ennyn ymateb chwyrn ar ôl awgrymu y dylai pobol yng ngwledydd eraill Prydain gefnogi tîm pêl-droed Lloegr yng Nghwpan y Byd.
Fe fydd Lloegr yn herio Croatia heno (nos Fercher) am le yn rownd derfynol y gystadleuaeth yn erbyn Ffrainc nos Sul.
Mae cryn dipyn o Gymry wedi dweud ar wefan gymdeithasol Twitter y byddan nhw’n cefnogi Croatia yn y gêm fawr.
Wrth ymateb i hynny, dywedodd Peter Jackson (@JackoRugby), “Pe bai Cymru, yr Alban neu’r naill Iwerddon neu’r llall yn chwarae am [le yn] ffeinal Cwpan y Byd, byddai cefnogwyr Lloegr yn eu cefnogi nhw.”
Wrth ddatgan ei ddiffyg diddordeb fel arfer mewn pêl-droed, ychwanega fod chwaraewyr Lloegr “prin wedi gwneud unrhyw beth o’i le ar y cae neu oddi arno”, cyn ychwanegu ei bod yn “bryd hoelio’r lliwiau i’r hwylbren”.
Ymateb
Ychydig iawn o’r ymatebion i’w neges sy’n cytuno â’i safbwynt, gyda nifer o bobol yn rhoi enghreifftiau o adegau pan fo’r gwrthwyneb yn wir.
Yn eu plith mae gohebydd y BBC, Ian Hamer sy’n dweud bod cefnogwyr Lloegr wedi dweud yn ystod Ewro 2016 eu bod nhw am i Gymru “gael eu trechu” wrth iddyn nhw gyrraedd y rownd gyn-derfynol yn Ffrainc.
Ac fe dynnodd e sylw at sylwadau rhai Saeson nad oedden nhw am i dîm Cymru ennill am ei fod yn “cynnwys chwaraewyr a gafodd eu geni yn Lloegr”.
Mae eraill yn beirniadu’r wasg Seisnig am ddiffyg sylw i Gymru ddwy flynedd yn ôl, wrth iddyn nhw droi eu sylw o hyd at ymgyrch Lloegr ar ôl iddyn nhw adael y gystadleuaeth.
Hyd yn hyn, mae’r neges wedi cael dros 50 o ymatebion.