Mae newyddion yn ein cyrraedd am ddigwyddiad ym mhwll glo Gleision yng Nghwm Tawe.

Credir bod saith o lowyr wedi bod yn gaeth yn y pwll – mae tri o lowyr eraill eisoes wedi cael eu hachub a chafodd un ei gludo i’r ysbyty.

Ond mae pedwar glowr yn dal i fod yn gaeth yn y pwll. Dywed Heddlu De Cymru bod y ddamwain wedi digwydd tua 9.21am bore ma a bod y gwasnaethau brys yn dal i geisio achub y glowyr sy’n gaeth yno.

Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.