Rheilffordd trenau bach y cwm wedi’i heffeithi
Mae diffoddwyr tân yn parhau i frwydro fflamau ar allt yn ardal Aberystwyth.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu hanfon i ddelio â’r tân yng Nghwm Rheidol, am 11.29yb ddydd Mawrth (Mehefin 26).
A bellach mae’r diffoddwyr wedi llwyddo amgylchynu’r tân fel nad oes modd iddo ledaenu ymhellach.
Mae hofrennydd a drôn wedi bod wrthi’n helpu â’r gwaith o ddiffodd, ac mae tir yr allt wedi’i leithio er mwyn atal rhwystro rhagor o fflamau.
Dyw’r gwasanaeth dân ddim yn gwybod beth wnaeth achosi’r tân.
Trenau
Bu’n rhaid gohirio gwasanaeth drenau bach Cwm Rheidol bore ddoe oherwydd y fflamau, a bu’n rhaid anfon teithwyr yn ôl i dre Aberystwyth mewn bysus o Bontarfynach.
Doedd Rheilffordd Cwm Rheidol ddim ar agor ddydd Mercher (Mehefin 27) oherwydd y tân.