Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi bod dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar y M4 ger Casnewydd brynhawn ddoe (dydd Mercher, Mehefin 20).

Mi gafodd yr heddlu ei galw yn sgil adroddiadau bod damwain traffig a oedd yn cynnwys un cerbyd wedi digwydd rhwng cyffyrdd 24 a 23 ar y M4.

Mae’n debyg bod car Audi Q5 glas wedi gadael y ffordd, gyda gyrrwr y car yn derbyn anafiadau difrifol i’w ben.

Mi gafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, lle bu farw’n ddiweddarach.

Mi dderbyniodd dyn, a oedd hefyd yn teithio yn yr un cerbyd, fân anafiadau yn sgil y digwyddiad.