Fe fydd gwrandawiad cychwynnol cyn y cwest i farwolaeth yr Aelod Cynulliad Carl Sargeant yn cael ei gynnal yn Llys y Crwner yn Rhuthun heddiw (dydd Gwener, 15 Mehefin).
Cafodd yr AC Llafur, 49 oed, ei ddarganfod yn crogi yn ei gartref yng Nghei Conna, dyddiau’n unig ar ôl cael ei ddiswyddo ym mis Tachwedd y llynedd.
Roedd hefyd wedi cael ei wahardd o’r blaid yn dilyn honiadau o gamymddwyn rhywiol.
Ddoe, (dydd Iau, Mehefin 14), roedd Paul Bowen QC – y dyn a fydd yn gyfrifol am yr ymchwiliad i’r modd y cafodd y cyn-weinidog ei ddiswyddo – wedi addo ymchwiliad “trylwyr ac annibynnol”.
“Gobeithiaf y bydd unrhyw un sy’n medru darparu tystiolaeth sy’n gysylltiedig â chylch gorchwyl yr ymchwiliad yn gwneud hynny cyn gynted ag sy’n bosib, ” meddai Paul Bowen.