Mae ymddiriedolaeth yn lansio ymgyrch newydd a fydd yn annog ffermwyr a pherchnogion tir i ddiogelu coed hynafol Cymru.
Yn Neuadd Bodfach ger Llanfyllin ym Mhowys ddydd Sadwrn yma (Mehefin 18), mi fydd taflen yn cael ei lansio er mwyn ceisio cael perchnogion tir i gymryd diddordeb mewn coed hynafol.
Mae’r daflen wedi’i chynhyrchu a’i hariannu fel rhan o brosiect ‘Y Goedwig Hir’, sy’n fentr ar y cyd rhwng Cadwch Gymru’n Daclus a Coed Cadw.
Nod y prosiect yw recriwtio miloedd o wirfoddolwyr i ofalu am berthi Cymru, gan blannu 100,000 o goed a gwella tua 120,000 o fetrau o berthi.
Coed pwysig
“Dylai pob un ohonom ni ofalu am ein coed hynafol oherwydd y manteision maen nhw’n eu cynnig inni bob dydd o’u hoes hir – gan wneud priddoedd yn iach, cysgodi stoc rhag haul ac eira, glanhau a phuro’r aer a anadlwn,” meddai Clare Morgan o Coed Cadw.
“Maen nhw’n gwneud ein tirweddau’n brydferth ac yn llawn cyfaredd.”