Crocs
Mae gweithwyr ysbyty yng Nghymru wedi cael gwybod na fyddwn nhw’n cael gwisgo sandalau ‘Crocs’ o hyn ymlaen oherwydd pryderon am ddiogelwch.

Dywedodd swyddogion nad oedd yr esgidiau rwber yn eu hamddiffyn yn erbyn offer siarp, gan gynnwys nodwyddau.

Mae pob ysbyty yng Nghymru wedi cytuno i bolisi cenedlaethol ar wisgoedd, sy’n cynnwys esgidiau.

Dywedodd Coleg Brenhinol y Nyrsys yng Nghymru eu bod nhw’n disgwyl i’w haelodau gydymffurfio â’r cod gwisgo.

Dywedodd Llywodraeth Cymro fod gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol “ddyletswydd i ofalu am eu gweithwyr”.

“Mae’r polisi gwisg ar gyfer pob un o weithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gan gynnwys nyrsys, yn cynnwys canllawiau iechyd a diogelwch.

“Mae’n dweud fod rhai gwisgo esgidiau sy’n gorchuddio’r troed yn llwyr.”

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno gwisg genedlaethol ar gyfer nyrsys a bydwragedd.

Mae rhai ysbytai yn Lloegr ac Ewrop hefyd wedi gwahardd eu gweithwyr rhag gwisgo Crocs.