Mae gweithiwr i elusen sy’n codi arian i un o wledydd tlota’r byd, yn dweud bod y wlad mewn “sefyllfa wael iawn”.
Daw sylwadau Theresa Haine o Langadog, sy’n gyfrifol am yr elusen ‘Arian i Fadagascar’, ar drothwy lansio apêl gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ddydd Sadwrn (Mehefin 9).
Wrth groesawu ymdrech yr Annibynwyr, mae’n dweud nad yw sefyllfa Madagascar wedi newid llawer ers 50 mlynedd.
“Pan oeddwn i’n gweithio yno hanner canrif yn ôl, roedd y rhan fwyaf o blant yn droednoeth… yna, ugain mlynedd yn ddiweddarach, roedden nhw’n dal yn droednoeth,” meddai Theresa Haine wrth golwg360.
“Erbyn hyn, mae ganddyn nhw ddillad ail-law sy’n dod i mewn o rannau’r byd, a fflip-fflops rhad o Tseinia.
“Fe ddylen ni fod yn ddiolchgar am hyn, ond ar y llaw arall mae nifer fawr o blant ac oedolion yn dal yn droednoeth a ddim yn meddu ar yr arian i wneud pethau.”
Y ffactorau
Mae Theresa Haine yn dweud mai un o’r prif resymau am y cynnydd diweddara’ mewn tlodi yw’r “llygredd ofnadwy” sy’n bodoli yn haen uchaf llywodraeth y wlad.
“R’yn ni’n gwneud llawer ag ysgolio yn Madagasgar,” meddai. “Dyw e ddim yn fusnes i ni i adeiladu ac adnewyddu ysgolion – mater i’r llywodraeth yw hynny – ond dydyn nhw ddim yn neud e, achos does ganddyn nhw ddim yr arian parod.
“Mae arian yn dod i mewn ond mae’n diflannu i rywle. Rydan ni wedi adnewyddu tua 150 o ddosbarthiadau erbyn hyn…”
“Gwaith anhygoel”
Wrth geisio codi ymwybyddiaeth am yr argyfwng yng Nghymru, mae Theresa Haine eisiau i’r Cymry “ddysgu mwy” am y cenhadon Cymreig, gan ei fod yn “rhan hyfryd” o hanes Cymru.
“Fe wnaethom nhw waith arbennig o dda,” meddai. “Mewn rhai rhannau o’r byd fe gawson nhw eu cyhuddo o ymyrryd mewn gwleidyddiaeth, ond fe wnaeth y cenhadon Cymreig ym Madagasgar ddysgu’r iaith frodorol yn gyflym iawn.
“Fe wnaethon nhw sefydlu ysgolion lle roed hawl i’r plant gael eu dysgu trwy gyfrwng eu hiaith eu hunain.
“O’r 1890au ymlaen wedyn, pan wnaeth y Ffrancwyr ddod, roedd rhaid i’r plant Malagasî gael eu haddysg trwy gyfrwng y Ffrangeg…”
Apêl i Fadagasgar
Mi fydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn lansio ei hapêl i Fadagascar yn Neuadd Goffa Aberaeron ddydd Sadwrn.
Mae’n rhan o gyfres o ddigwyddiadau sy’n cyd-fynd â chyfarfod cyffredinol yr enwad yn y dre’ lan y môr yr wythnos hon, ac yn nodi 200 mlynedd ers i David Jones a chenhadon eraill fynd allan i Fadagasgar o Neuadd-lwyd yn 1818.