Mae’r Aelod Cynulliad, Neil McEvoy wedi galw ar Brif Weinidog a llywodraeth newydd Sbaen i ryddhau’r bobol sydd dan glo am ymgyrchu a gweithio tuag at annibyniaeth i Gatalwnia.
Mewn fideo ar wefan gymdeithasol Facebook, mae’n galw yn Sbaeneg ar i Pedro Sanchez – sydd newydd gamu i’r swydd gan ddisodli Mariano Rahoy yn dilyn pleidlais o ddiffyg hyder – i ryddhau carcharorion gwleidyddol.
Mae’n ei gyflwyno ei hun fel aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn siarad ag aelodau Llywodraeth Sbaen, ac yn dweud ei fod yn falch o weld llywodraeth newydd yno.
“Rwy’n gobeithio y bydd y Prif Weinidog newydd yn dewis trafod Catalwnia,” meddai Neil McEvoy, “ac y bydd yn dewis trafod gyda llywodraeth Catalwnia.
“Rwy’n gobeithio hefyd mai un o’i flaenoriaethau yn ei swydd fydd rhyddhau’r carcharorion gwleidyddol o Gatalwnia.”
Mae Neil McEvoy ar hyn o bryd wedi’i wahardd o Blaid Cymru, ac yn eistedd fel AC annibynnol ym y Senedd ym Mae Caerdydd.
Dyma’r fideo oddi ar ei dudalen Facebook:
Welsh politician calls for Catalan prisoners to be released
Message from Cardiff. The new Spanish Prime Minister needs to free the Catalan political prioners. Wales is with you.*video in Spanish with English subtitles*
Posted by Neil McEvoy on Friday, 1 June 2018